TAITH GERDDED YN Y MYNYDD DU

Ceunentydd creigiog yn datgelu’r cyfan.

 
Gadewch i ni egluro ein terminoleg o’r dechrau un. Rydyn ni’n sôn yn y fan yma am y Mynydd Du (unigol) yng ngorllewin Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ac nid am y Mynyddoedd Duon (lluosog) ar y ffin. Mae gwahaniaeth mawr, fel y gwelwch chi ar y daith gerdded fer yma sy'n eich cyflwyno chi i ymylon deheuol y Parc lle mae diwydiant yn cyfarfod cefn gwlad. 


Manylion pwysig

Hyd: 2½ milltir (4km)
Amser: Tua 1½–2 awr.
Dechrau a gorffen: Canolfan y Mynydd Du, Brynaman
Cyfeirnod Map OS: SO 713144
Map OS: Explorer OL12 (cyfres 1:25 000)
Cyfleusterau: Maes parcio, lluniaeth yn y pentref
 

Ar hyd y daith

Brynaman
Mae’r hen dref lofaol yma’n sefyll ar y ‘rhaniad mawr’ sy’n dynodi ffin ddeheuol y Parc Cenedlaethol. Mae’r trawsnewid sydyn o fod yn ddiwydiannol a phoblog i fod yn wledig ac yn denau o ran poblogaeth ar ei amlycaf yma. Mae Canolfan y Mynydd Du ar y ffin. I’r gogledd mae ehangder gwag o rostir a mynyddoedd, ac i’r de fe welwch chi derasau gorlawn yr hen gymunedau glofaol a’r gweithfeydd glo brig. Mae Canolfan y Mynydd Du, sydd wedi’i lleoli mewn hen ysgol fabanod, yn ganolfan i’r gymuned ac i ymwelwyr, gyda gwybodaeth i dwristiaid, arddangosfeydd treftadaeth, oriel a bwyty.
 
Yr hen chwarel a cheunant Nant Melyn
Yn yr 19eg ganrif, roedd y chwarelwyr yn y fan yma’n cloddio am gerrig adeiladu. Y creigiau oddi tano sy’n gyfrifol am fodolaeth Brynaman. Mae sylfeini creigiog y pentref i’w gweld yn y ceunant sydd wedi’i dorri gan y nant sy’n llifo i lawr oddi ar y Mynydd Du. Pan ymwelodd George Borrow, yr awdur taith arloesol, â’r ardal yn 1854, roedd yn adnabod y pentref fel ‘Y Gwter Fawr’. Mae’r enw’n tarddu o’r arfer lleol o ddefnyddio llifogydd artiffisial i sgwrio’r pridd oddi ar y cerrig oddi tanodd er mwyn cyrraedd at ddeunyddiau crai'r Chwyldro Diwydiannol, sef haearnfaen a glo. Mae’r ceunant yn torri i lawr i mewn i’r Gwythiennau Glo, a gloddiwyd yma.            
 
Corlannau defaid
Mae gwythïen lo arall uwchlaw’r bont droed sy’n arwain at weddillion cyfres o gorlannau defaid. Daethpwyd o hyd i haearnfaen yma hefyd.
 
Olion o’r Oes Iâ (rhwng pwyntiau 3 a 4 ar hyd y daith)
Mae grymoedd natur, nid dyn, yn amlwg yma. Fe welwch chi feini tywodfaen mawr wedi’u gwasgaru ymysg y llystyfiant ar ochr y bryn uwchlaw Brynaman. Maent yn tarddu o’r grib uwchlaw ond cawsant eu dyddodi yma gan rewlif yn toddi tua diwedd yr Oes Iâ ddiwethaf, tua 15,000 o flynyddoedd yn ôl efallai.
 
Ffarwel i lo (rhwng pwyntiau 4 a 5 ar hyd y daith)
Wrth y bont droed mae Nant Garw’n ymddangos o ddyffryn dwfn sydd wedi torri drwy’r ‘Graig Ffarwel’. Mae’r enw’n datgelu’r cyfan am orffennol diwydiannol yr ardal. Cafodd y graig, sy’n dynodi sylfaen Gwythiennau Glo De Cymru, ei henwi gan y glowyr, gan eu bod yn gwybod nad oedd mwy o ‘aur du’ i’w gloddio’n economaidd pan oeddent yn ei tharo.
 
Ar yr wyneb (rhwng pwyntiau 5 a 6 ar hyd y daith)
Edrychwch yn union i’r de ar draws yr A4068 ac fe welwch chi ardal agored fawr ar ochr bryn. Glofa frig sydd yma. Yn y 18fed ganrif, darganfuwyd digonedd o lo a haearnfaen yn y fan yma, ar yr wyneb neu’n agos ato. Arweiniodd hyn at droi Brynaman a’r pentrefi cyfagos yn ardaloedd diwydiannol.