LLWYBR DAEARYDDOL GLYN TARELL

Siwrnai ddramatig i Geoparc y Fforest Fawr

 
Mae’r llwybr caled ond hynod ddiddorol yma, sy’n eich arwain chi i lwyfandir Fforest Fawr, yn cynnwys rhywfaint o gerdded oddi ar lwybrau troed wedi’u marcio. Ar y diwedd, fe fyddwch chi’n gwybod sut bu i iâ siapio’r tirluniau yma a pham mai Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yw cartref Geoparc Ewropeaidd cyntaf Cymru.  
 

Manylion pwysig

Hyd: 6¼ milltir (10km)
Amser: Tua 3–4 awr 
Dechrau a gorffen: Storey Arms, ar yr A470 rhwng Aberhonddu a Merthyr Tudful
Cyfeirnod Map OS: SO 982203
Map OS: OL12 Explorer (cyfres 1: 25 000)
Cyfleusterau: Maes parcio yn Storey Arms. Mae toiledau ar gael yn y maes parcio nesaf, ychydig gannoedd o fetrau i’r de.
 

Ar hyd y daith

Storey Arms
Mae’n fan cychwyn da, nid yn unig i gerdded, ond fel cyflwyniad i sut mae’r rhewlifiant yn ystod yr Oes Iâ ddiwethaf - a ddaeth i ben tua 10,000 i 12,000 o flynyddoedd yn ôl - wedi siapio Bannau Brycheiniog fel rydyn ni’n eu gweld nhw heddiw.  Rydych chi yng nghanol yr haen iâ fawr ddiwethaf a orchuddiai’r rhanbarth. Toddodd yr iâ i ddechrau oddeutu 15,000 o flynyddoedd yn ôl, ond daeth y rhewlifau’n ôl i’r cymoedd uchel am gyfnod oer, byr oddeutu 10,600 o flynyddoedd yn ôl. Mae Storey Arms mewn safle allweddol wrth y cyfrwy (neu’r bwlch) rhwng glyn Tarell i’r gogledd a glyn Taf i’r de. Mae’r ddau gwm yma’n gafnau rhewlifol gyda siâp U clasurol a nodweddiadol. Cawsant eu cerfio gan iâ oddeutu 25,000 o flynyddoedd yn ôl, gyda’r bwlch yn cynrychioli ‘rhaniad iâ’ blaenorol yng nghanol y rhewlif diwethaf.
 
Fan Fawr
Ar ochr ogleddol Fan Fawr sy’n 734m o uchder, mewn pant bas tua 560m, fe welwch chi gasgliad o dwyni a chribau. Efallai fod y rhain yn adlewyrchu bodolaeth rhewlif bychan neu greigiau a ddisgynnodd ar eira neu iâ ar lethrau Fan Fawr tua 10,600 o flynyddoedd yn ôl. Edrychwch ar y meini neu’r cerrig ar y cribau hyn - efallai y gwelwch chi rigolau, sef marciau crafu a grëwyd drwy sgwrio’r iâ.      
 
Fforest  Fawr
Mae’r daith gerdded hon yn mynd â chi i ardal o’r enw Fforest Fawr. Nid ei gorchudd o goed sydd wedi rhoi ei henw i’r ardal, ond ei statws hynafol fel tir hela. Mae’r rhostir gwyllt yn yr ucheldir wedi rhoi ei enw i Geoparc y Fforest Fawr, a grëwyd yn 2005.
 
Craig Cerrig-Gleisiad
Dyma un o nodweddion mwyaf rhyfeddol a grymus y Parc Cenedlaethol. Er mai dim ond tafliad carreg oddi wrth yr A470 brysur mae’r graig, mae’r amffitheatr llawn awyrgylch yma o glogwyni uchel a chreigiog fel pe bai mewn byd arall, ar wahân, ar ei phen ei hun. Mae’n Warchodfa Natur Genedlaethol (GNG) diolch i’w hamrywiaeth ryfeddol o blanhigion arctic alpaidd. Crëwyd creigiau dramatig a serth Craig Cerrig-Gleisiad, a’i llethrau is clapiog a phonciog, yn ystod yr Oes Iâ pan drodd yr eira a gasglodd ar y llethrau a oedd yn wynebu tua’r gogledd yn rhewlif yn y diwedd. Cerfiodd symudiad naddu a rhygnu’r iâ y clogwyni 150m o uchder a phan giliodd y rhewlif yn y diwedd, gadawodd y gweddillion i greu’r hyn a elwir yn farianau - y twmpathau a’r bryncynnau sydd i’w gweld yn glir yn y bowlen o dan glogwyni tywyll Craig Cerrig-Gleisiad. O gofio am ei tharddiad a’i natur gysgodol, mae’n briodol rywsut bod y GNG yn enwog am ei phlanhigion arctig alpaidd prin, fel y tormaen glasgoch a’r coedwyrdd bylchog. Maent yn goroesi yma yn y llecyn mwyaf deheuol ym Mhrydain, neu’n agos ato (ac nid ydynt yn ymddangos eto nes cyrraedd yr Alpau), gan lynu wrth siliau, rhigolau a chlogwyni Cerrig-Gleisiad. Mae’r ffaith bod y safle’n anhygyrch wedi cyfrannu at eu goroesiad hefyd, felly gofynnir i chi beidio â dringo’r clogwyni a’r sgrïau serth i’w gweld yn agosach - dewch â sbienddrych gyda chi.