GARNANT O GWM I GWM

Tirlun y Mynydd Du wedi’i siapio gan rymoedd hynafol a chan ddyn wrth iddo ymsefydlu

 
Taith gerdded gymharol rwydd drwy ran orllewinol Geopark Fforest Fawr, gan gynnig cipolygon rhyfeddol ar hanes daearegol yr ardal.     
                           
 

Manylion pwysig

Hyd: 5 milltir (8km)
Amser: 2 i 3 awr 
Dechrau a gorffen: Maes parcio yn y Garnant, ger Brynaman
Cyfeirnod map OS: SO 686134
Map OS: Explorer OL12 (cyfres 1:25 000)
Cyfleusterau: Maes parcio, tafarn a siop yn y Garnant
 

Ar hyd y daith   

Adfeilion ac aneddiadau          
Mae olion hen aneddiadau i’w gweld yma ac acw ar lethrau deheuol y Mynydd Du. Cadwch lygad wrth i chi gerdded ac fe welwch chi olion strwythurau sy’n dyddio mor bell yn ôl â’r Oes Efydd hyd yn oed, a thrwy’r cyfnod canoloesol a thu hwnt. 
 
Drysgol
Copa 393m Drysgol yw un o nodweddion daearegol a thirluniol amlycaf yr ardal. Tywodfaen yw ei lethrau, sy’n cael ei alw hefyd yn Graig Ffarwel, sy’n enw anarferol yn deillio o’r rhan hon o orffennol diwydiannol y Parc Cenedlaethol. Os oedd glöwr yn dod ar draws y math yma o dywodfaen wrth wneud ei waith, golygai y gallai ddweud ffarwel wrth ddod o hyd i unrhyw waddodion glo pellach i weithio arnynt y tu hwnt i’r strata penodol yma.
 
Cwm Berach
Wrth i’r llwybr ostwng i Gwm Berach mae’n dilyn llinell Ffawt Tŷ Llwyd. Ar ei hyd mae creigiau sydd wedi cael eu symud i lawr tua’r gorllewin. Byddai symudiad y creigiau ar y naill ochr i’r ffawt wedi achosi daeargrynfeydd ar un adeg. Ond peidiwch â disgwyl i’r ddaear grynu'r dyddiau hyn - nid yw’r ffawt wedi bod yn weithredol ers miloedd o flynyddoedd.
 
Hen Gapel Bethel
Adeiladwyd Hen Gapel Bethel yn 1773 ac arferai fod yn ganolbwynt i bobl dyffryn Aman. Mae lleoliad y capel yn ymddangos braidd yn anghysbell heddiw, ar lethr y mynydd, ond nid oedd hynny’n wir ar un adeg. Yn wreiddiol, teithiai’r ffordd rhwng Castell-nedd a Llandeilo heibio i’w ddrws ffrynt, ac felly roedd yn lleoliad hwylus iawn i’r addolwyr lleol. Er hynny, pan agorwyd y ffordd dyrpeg newydd drwy Gwmaman yn 1817, gwelwyd llai a llai o gynulleidfa yno, a daeth y gwasanaethau i ben yn 1864.