HEDFAN YN UCHEL O DALGARTH

Gwylio gleidwyr a dringo at gastell uchaf y wlad.

 
O Dalgarth, mae’r llwybr cymedrol i anodd yma’n dringo i fyny heibio’r clwb gleidio lleol ar ysgwydd y Mynyddoedd Duon i Gastell Dinas. Dyma safle ysbrydoledig gyda golygfeydd gwych, a gweddillion amddiffynfeydd Celtaidd a chanoloesol yn goron ar y copa.                                   
 

Manylion pwysig

Hyd: 7 milltir (11km)
Amser: Tua 3½ awr 
Dechrau a gorffen: Y prif faes parcio yn Nhalgarth
Cyfeirnod Map OS: SO 153337
Map OS: Explorer OL13 (cyfres 1:25 000)
Cyfleusterau: Gwybodaeth i dwristiaid, toiledau, siopau a llefydd bwyta yn Nhalgarth
 

Ar hyd y daith

Talgarth
Mae Talgarth yn dref fechan, heddychlon a chyfeillgar sy’n rhan o’r cynllun Croeso i Gerddwyr. Mae mewn llecyn perffaith ar gyfer mwynhau canol Bannau Brycheiniog ac - yn nes fyth at adref - y Mynyddoedd Duon sydd i’w gweld yn  codi’n uniongyrchol y tu draw i doeau’r adeiladau. Ceir cofgolofn i Hywel Harris yn Eglwys Santes Gwendoline. Roedd Hywel Harris yn ŵr nodedig a arweiniodd y Diwygiad Methodistaidd yng Nghymru yn 1735. Mae’r hen felin ddŵr yng nghanol y dref wedi cael ei thrawsnewid yn hyfryd fel rhan o brosiect cymunedol llwyddiannus iawn sy’n cynnwys becws a chaffi (teithiau o amgylch y felin ar gael). Cynhelir gŵyl gerdded boblogaidd yma bob gwanwyn.     
 
Clwb Gleidio’r Mynyddoedd Duon
Mae’r Mynyddoedd Duon, gyda’u cribau a’u tarenni, yn creu amodau perffaith yn rheolaidd ar gyfer gleidio. Sefydlwyd y clwb gan ddau ffermwr lleol dros 30 mlynedd yn ôl a heddiw mae’n safle gleidio hynod bwysig gyda rhai o’r amseroedd hedfan hiraf ar gyfartaledd yn y DU. Mae’n lle cyfeillgar a chroesawus. Mae croeso i chi ddod yma i wylio a mwynhau lluniaeth yn y clwb ac, yn well na dim, cael gwers brawf mewn gleidar dwy sedd. Ymunwch â’r barcutiaid cochion a’r bwncathod fry yn y thermalau am olygfa fendigedig o’r mynyddoedd.         
 
Castell Dinas
Dyma gadarnle ymhlith y gorau a fu erioed. Mae’n amddiffynfa fawr ym mlaen cwm Rhiangoll, yn barod i warchod bwlch strategol yn y mynyddoedd. Mae’n hawdd iawn gweld pam fod ein cyndadau Celtaidd wedi adeiladu bryngaer yn y fan yma yn ystod yr Oes Haearn. Ac nid nhw oedd yr unig rai i werthfawrogi asedau amddiffynnol parod Castell Dinas chwaith. Ychwanegwyd at y safle gan adeiladwyr cestyll Rhufeinig, o’r 5ed ganrif ac o’r canol oesoedd. Er hynny, y ffosydd a’r rhagfuriau o’r Oes Haearn sydd wedi goroesi orau ar hyd y blynyddoedd (ac yn nannedd y tywydd), nid y gwaith cerrig o’r cyfnod canoloesol hwyrach. Ewch yma i archwilio’r amddiffynfeydd hynafol, i gael ymdeimlad o orffennol y lle, ac wedyn mwynhau’r golygfeydd anhygoel i bob cyfeiriad. Mae’r safle yma’n 450m o uchder a dywedir mai hwn yw’r castell uchaf yn y DU.