TAITH GERDDED COED TALGARTH A’R RHAEADRAU

Dŵr a choed ar gyrion y Mynyddoedd Duon.           

 
Mae Talgarth yn dref Croeso i Gerddwyr. Mae’n lleoliad gwych. Yn ogystal â bod yng nghysgod y Mynyddoedd Duon, mae’n agos at ganol Bannau Brycheiniog. Mae’r daith gerdded yma’n eich arwain i fyny drwy’r coed i dir comin agored yn union o dan darren uchel y Mynyddoedd Duon, cyn dod yn ôl i lawr heibio i raeadrau godidog.                     
 

Manylion pwysig

Hyd: 8 milltir (13km)
Amser: Tua 4 awr    
Dechrau a gorffen: Y prif faes parcio yn Nhalgarth
Cyfeirnod Map OS: SO 153337
Map OS: Explorer OL13 (cyfres 1:25 000)
Cyfleusterau: Gwybodaeth i dwristiaid, toiledau, siopau a llefydd bwyta yn Nhalgarth
 

Ar hyd y daith

Talgarth
Dyma brifddinas teyrnas hynafol Brycheiniog ar un adeg ac mae’n dref fechan a chyfeillgar ar lan afon. Mae’n lleoliad gwych ar gyfer gweithgareddau awyr agored. Yn Eglwys Santes Gwendoline ceir cofgolofn i Hywel Harris, gŵr nodedig a arweiniodd y Diwygiad Methodistaidd yng Nghymru yn 1735 (gweler y cofnod ar wahân). Mae hen felin Talgarth wedi cael ei thrawsnewid yn hyfryd fel rhan o brosiect cymunedol llwyddiannus iawn (teithiau ar gael).
 
Eglwys Santes Gwendoline
Gwendoline oedd un o blant niferus y Brenin Brychan, llywodraethwr Brycheiniog yn y 5ed ganrif. Efallai bod yr eglwys hardd hon yn dyddio o ddechrau’r cyfnod Celtaidd Cristnogol yn y 6ed ganrif. Defnyddid y Groes Bregethu yn y fynwent gan ŵr lleol ac arweinydd crefyddol carismataidd, Hywel Harris. Roedd yn arloeswr cymdeithasol ac amaethyddol hefyd, gan sefydlu cymuned Fethodistaidd yn Nhrefeca gerllaw, comiwn a oedd yn byw bywyd hunangynhaliol bron. Yn ôl y sôn, roedd 20,000 o bobl yn ei angladd yn Eglwys Santes Gwendoline yn 1773.
 
Comin Rhos Fawr
Mae Rhos Fawr a Rhos Fach drws nesaf yn eangderau o dir comin wedi’u hamgáu’n rhannol. Fe’u defnyddir ar gyfer anifeiliaid pori gan ffermydd cyfagos sy’n mwynhau ‘hawliau’r comin’. Yn hanesyddol, roedd yr ardaloedd hyn yn hanfodol i bobl dlotach y plwyf, a oedd yn eu defnyddio er mwyn i’w buchod, un fel rheol, eu dofednod a’u moch weithiau, gael pori. Mae tir fel hwn yn eithaf cyffredin ac yn nodwedd amlwg ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
 
Tarren y Mynyddoedd Duon  
Does dim posib ei methu. Mae’n codi’n uchel uwch ben fel wal ddramatig sy’n wynebu tua’r gogledd o Dalgarth ar draws Penybegwn a ffin Cymru/Lloegr. Mae’n creu amodau hedfan perffaith bron i gleidwyr – maent i’w gweld yn aml yn yr awyr, ar ôl lansio o glwb gleidio i’r de o Dalgarth.
 
Pwll-y-Wrach
Mae’r enw’n cyfeirio at y chwedl dywyll sy’n gysylltiedig â’r pwll a’r defnydd ohono yn yr Oesoedd Canol i roi’r rhai a gyhuddid o fod yn wrachod ar brawf. Gwnaed hyn er mwyn penderfynu a oeddent yn euog neu’n ddieuog. Boed yn wir ai peidio, yr awyrgylch sydd i’w deimlo yma heddiw yw awyrgylch llecyn gwledig hardd iawn mewn coetir hynafol. Mae’n warchodfa natur 43 erw (17.5ha) boblogaidd ac yma mae’r afon Ennig yn plymio i lawr rhimyn o graig i’r pwll chwedlonol. Mae cyfoeth o fywyd gwyllt ym Mhwll-y-Wrach. Dewch yma yn y gwanwyn i weld blodau’r gwynt a chlychau’r gog, a gobeithio y byddwch chi’n ddigon lwcus i gael cipolwg ar las y dorlan neu glywed dyfrgi’n cyfarth hyd yn oed. Mae yma lwybr daeareg wedi’i farcio hefyd.