PEN-Y-FÂL O’R FENNI

Coetir a rhostir sy’n arwain at olygfeydd gwych.       

 
Mae’r daith gerdded bleserus yma’n eich arwain i fyny’n uchel iawn o ddyffryn yr afon Wysg a thref brysur y Fenni i gopa heddychlon mynydd Pen-y-fâl. Byddwch yn dringo 580m i gyd, drwy dirlun o harddwch naturiol eithriadol sy’n datgelu cliwiau am weithgarwch diwydiannol cynnar.

 

Manylion pwysig 

Hyd: 9 milltir (14.5km)
Amser: Tua 4–5 awr 
Dechrau a gorffen: Canolfan y Parc Cenedlaethol a Gwybodaeth i Dwristiaid yn y Fenni (yn yr orsaf fysus)
Cyfeirnod Map OS: SO 301140
Map OS: Explorer OL13 (cyfres 1:25 000)
Cyfleusterau: Canolfan ymwelwyr a thoiledau yng ngorsaf fysus y Fenni, caffis, tafarndai, siopau a gorsaf reilffordd yn y Fenni
 

Ar hyd y daith

Y Fenni
Mae’r dref wledig hyfryd yma, sy’n aelod o’r cynllun Croeso i Gerddwyr, ym mhorth de-ddwyreiniol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae’n lle bywiog a ffyniannus, yn gyforiog o hanes a gyda dewis da o lefydd i aros a bwyta. Dyma ganolfan ddelfrydol ar gyfer cerdded canol Bannau Brycheiniog a’r Mynyddoedd Duon ar y cyrion (yn wir, mae saith mynydd yn amgylchynu’r dref). Ymhlith yr atyniadau mae Castell ac Amgueddfa’r Fenni, y Neuadd y Dref Fictoraidd, Ysgubor y Degwm sydd wedi’i thrawsnewid, Theatr y Fwrdeistref ac Eglwys Priordy’r Santes Fair, sy’n nodedig am ei delwau canoloesol gwych a Choeden Jesse. Mae’r dref yn gartref i Ganolfan y Parc Cenedlaethol a Gwybodaeth i Dwristiaid.
 
Deri Fach
Ystyr yr enw yw coetir derw bychan. Mae’n goedlan hynafol a ddefnyddid gan ein cyndadau i dorri a llosgi coed ar lwyfannau bychain, er mwyn cynhyrchu siarcol i’r diwydiannau lleol. Heddiw fe welwch chi fod gan lawer o’r coed derw fwy nag un coes, o ganlyniad i gael eu torri i lawr ac wedyn aildyfu o’r boncyff wedi’i dorri. Mae llwyfannau llosgi siarcol bychain i’w gweld o hyd yma hefyd, ond cloddio am gerrig yn y chwarel sy’n gyfrifol am y tyllau a’r ceudodau amlycaf yn yr ardal. Yn ychwanegol at yr hanes rhyfeddol hwn, mae’r coedydd yma, sydd wedi’u dynodi’n Ardal Cadwraeth Arbennig, yn gartref unigryw heddiw i rywogaethau prin ac o dan fygythiad.                    
 
Pen-y-fâl
Mae gan y bryn mawr, heriol a moel yma, sy’n 596m o uchder, ryw hud arbennig - mae pawb sy’n ymweld â’r Fenni’n gorfod ei ddringo. Y wobr am hynny yw un o’r golygfeydd godidocaf ar wyneb y ddaear - mynyddoedd diddiwedd yn donnau gwyrddion braf bob cam o’u cwmpas, dim ots i ba gyfeiriad maent  yn edrych. Yn y gorllewin, mae copaon gwastad canol y Bannau, i’r gogledd-orllewin, Pen Cerrig-calch, i’r gogledd, y Mynyddoedd Duon ac i’r gogledd-ddwyrain mae Bryn Hatterall. Yn y dwyrain gwelir Ysgyryd Fawr ac i’r de ceir golygfa ar draws dyffryn Wysg at fynydd y Blorenge. Panorama anhygoel!