PEN Y FAN A CHRIBYN O GWM GWDI

Y Bannau drwy’r drws cefn.  

 
Mae’r daith egnïol hon yn eich arwain chi i lecyn adnabyddus iawn - copa Pen y Fan - ar hyd un o’r llwybrau llai cyfarwydd. Rydyn ni’n credu mai hon yw’r ffordd fwyaf dramatig o bosib o gyrraedd y copa.

 

Manylion pwysig

Hyd: 7½ milltir (12km)
Amser: Tua 3–4 awr 
Dechrau a gorffen: Maes parcio Cwm Gwdi (2 filltir/3.2km i’r de o Aberhonddu)
Cyfeirnod Map OS: SO 024247
Map OS: OL12 Explorer (cyfres 1:25 000)
Cyfleusterau: Maes parcio  
 

Ar hyd y daith

Cwm Llwch
Mae’r pant dwfn o dan Gorn Du yn enghraifft glasurol o nodweddion daearegol niferus Bannau Brycheiniog.  Cafodd y cwm yma, neu’r peiran, ei greu gan rewlifau’n symud yn ystod yr Oes Iâ ddiwethaf. Mae llyn rhewlifol y cwm yn nodwedd glasurol arall o’r Oes Iâ. Er mwyn cydnabod ei threftadaeth ddaearegol eithriadol, cafodd rhan orllewinol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (sy’n cynnwys yr ardal sy’n rhan o’r daith yma) ei dynodi’n Geoparc Ewropeaidd yn 2005.
 
Pen y Fan
Yn 886m o uchder, dyma fynydd uchaf De Cymru a De Prydain. Crëwyd ei gopa gwastad nodedig, sydd mor nodweddiadol o’r Bannau, gan y Gwelyau Llwyfandir gwarchodol sy’n galetach hyd yn oed na’r sylfaen o Dywodfaen Brown, sef is-raniad o’r Hen Dywodfaen Coch sy’n ffurfio asgwrn cefn y Parc Cenedlaethol. Arferai creigiau’r Bannau orwedd ar lefel y môr ar un adeg. O edrych yn fanwl ger y copa, fe welwch chi donnau tywod yn ffosilau, sef y gweddillion ar ben mynydd o draeth hynafol. Mae arwyddocâd ac atyniad arbennig Pen y Fan wedi para milenia: mae olion gweddillion carnedd gladdu o’r Oes Efydd ar y copa. 
 
Corn Du
Yn 873m o uchder, dim ond 13m yn is na Phen y Fan yw Corn Du (ac mae’r golygfeydd yr un mor gyfareddol).
 
Cribyn
Fel Pen y Fan, mae olion carnedd gladdu o’r Oes Efydd ar gopa 795m Cribyn.
 
‘Y Gap’ a’r ffordd Rufeinig
Mae’r Bwlch ar y Fan yn fwy adnabyddus fel ‘Y Gap’. Er bod hwn yn enw braidd yn ddiddychymyg, mae’n addas tu hwnt. Yn 559m o uchder, mae’n hollt amlwg yn y mynyddoedd (’fyddwch chi ddim eisiau picnic wrth i’r gwynt chwipio drwy’r fan yma) ac yn llwybr amlwg o’r gogledd i’r de drwy ganol y Bannau. Efallai fod y ffordd sy’n torri drwy ‘Y Gap’, heb wyneb arni, o darddiad Rhufeinig.