CEFN LLECHID

Tir comin anghyffredin o dda.

 
Mae’r daith gerdded gylch yma’n gymedrol o ran her. Mae’n eich arwain o Ganolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol (sydd hefyd yn cael ei galw’n Ganolfan y Mynydd) i gomin diarffordd. Fe welwch chi dirluniau cynhenid heb eu difetha yno, ochr yn ochr ag elfennau a fydd yn eich atgoffa heb unrhyw amheuaeth o hanes dyn yn yr ardal.
 

Manylion pwysig

Hyd: 7½ milltir (12km)
Amser: Tua 4 awr
Dechrau a Gorffen: Canolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol, ger Libanus
Cyfeirnod Map OS: 977263
Map OS: 160 (cyfres 1:50 000)
Cyfleusterau: Toiledau, maes parcio a lluniaeth yng Nghanolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol
 

Ar hyd y daith

Traeth Mawr a Thraeth Bach
Mae corstiroedd Traeth Mawr a Thraeth Bach, sydd drws nesaf i’w gilydd, yn gyforiog o fyd natur ac yn rhan o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Maent yn gynefin i blanhigion cors a mign rhyfeddol, fel chwys yr haul a thafod y gors, sy’n bwydo ar y pryfed maent yn eu dal gyda’u dail, sydd wedi’u haddasu’n arbennig. Efallai hefyd y gwelwch chi adar fel y gïach gyffredin, y gylfinir a’r gornchwiglen, yn ogystal â gweision y neidr lliwgar a mursennod prin.  
 
Ffordd y porthmyn
Arferai rhwydwaith o ffyrdd y porthmyn groesi cefn gwlad yr ardal yma. Roeddent yn cael eu defnyddio i yrru gwartheg i’r farchnad cyn dyfodiad y rheilffordd. Deuai hon â da byw fel gwartheg, defaid, moch a thyrcwn hyd yn oed, i fwydo gweithlu De Cymru ddiwydiannol. Byddai timau o ddynion yn defnyddio corgwn i helpu i yrru’r anifeiliaid, gan deithio ar gyflymdra o ddim ond dwy filltir yr awr ar gyfartaledd - doedd e ddim yn fwyd cyflym fel sydd ar gael heddiw!
 
Castell Blaencamlais
Credir fod hwn wedi cael ei adeiladu gan Lywelyn ap Gruffydd, Tywysog cynhenid Cymru, yn yr 11eg ganrif. Mae adfeilion Castell Blaencamlais yn sefyll ar dir preifat yn agos at ffordd y porthmyn. Nid yw bellach yn ddim mwy na thwmpath o laswellt gydag ychydig o waliau adfail. Nid ydym yn gwybod llawer am bwrpas gwreiddiol y tŵr caerog, ond mae rhai’n credu mai llety hela oedd hwn.  Mae’r dirgelwch cysylltiedig â gorffennol y strwythur yn ymestyn i gynnwys ei enw - dros y blynyddoedd mae wedi cael ei adnabod fel Cwm Camlais, Maescar a Chastell Defynoch.
 
Llanilltud
Mae safle hynafol Llanilltud yn gartref i weddillion rhyfeddol o orffennol crefyddol y Parc Cenedlaethol. Nid oedd Eglwys Sant Illtud yn cael ei defnyddio’n rheolaidd erbyn y 1920au a chafodd ei dymchwel yn 1995. Er hynny, mae cerrig beddau ag ôl tywydd arnynt i’w gweld o hyd ym mynwent yr eglwys, a’r arysgrif arnynt yn cynnig cipolwg o fywydau byr yn aml y cenedlaethau a fu. Adeiladwyd yr eglwys ar safle addoli llawer hŷn a oedd yn dyddio’n ôl i’r Oes Haearn. Dewch am dro yma ar heuldro’r gaeaf ac fe welwch chi’r haul yn codi’n union rhwng dau gopa Pen-y-Fan a Chorn Du.