BWLCH I DOR Y FOEL

Bwlch enfawr

 
Awyr iach, dyffrynnoedd gwyrddlas a golygfeydd mawreddog - mae’r daith egnïol, gyffrous yma’n cynnwys llawer o gerdded i fyny ac i lawr, gyda choedwig, llyn, camlas a thramffordd hanesyddol ar hyd y daith.

 


Manylion pwysig

Hyd: 10½ milltir (17km)
Amser: Tua 4½–5½ awr
Dechrau a gorffen: Y New Inn, Bwlch
Cyfeirnod Map OS: SO 150220
Map OS: Explorer OL13 (cyfres 1:25 000)
Cyfleusterau: Lluniaeth ar gael yn y New Inn a’r Coach and Horses, Llangynidr. Mae bws X43 o Aberhonddu i'r Fenni’n stopio wrth y New Inn.
 

***Nodwch, os gwelwch yn dda, er bod y daith yn cychwyn o’r New Inn, rhaid i chi ofyn caniatâd cyn gadael eich car ym maes parcio’r New Inn***

Ar hyd y daith

Pont Llangynidr
O guddio’r polion arafu traffig sydd yma, gallech fod yn ôl yn y 18fed ganrif.  Mae’r bont eithriadol gul yma’n bont ddel iawn, gyda chwe bwa’n ymestyn dros ddyfroedd gwyllt afon Wysg oddi tanodd. Mae’n llecyn poblogaidd ymhlith canŵ-wyr. Cadwch lygad am y crëyr glas, bronwen y dŵr a bywyd gwyllt arall y dŵr yn y fan yma (os byddwch yn lwcus, efallai y cewch gip ar las y dorlan). Cafodd y bont restredig Gradd I yma ei chodi tua 1700.
 
Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu
Arhoswch yn y Coach and Horses am fwyd ac i gael golwg fanylach ar Gamlas Sir Fynwy ac Aberhonddu. Dyma ased lleol uchel ei barch ac un o atyniadau mwyaf poblogaidd y Parc Cenedlaethol. Mae’n 32 milltir (51km) o hyd rhwng Aberhonddu a Phont-y-moel, i’r de o Bontypŵl (cafodd ei hadeiladu rhwng 1797 ac 1812 ac yn wreiddiol roedd yn ymestyn bob cam i Gasnewydd).  Mae’n gamlas hardd, ddeiliog ac anarferol o wastad. Mae hynny’n golygu nad oes llawer o lociau, ond gallwch weld ambell un heb fod ymhell o’r dafarn. Ar un adeg, roedd y gamlas yn cael ei defnyddio i gludo gwlân, glo, calchfaen a chynnyrch arall. Cychod pleser sydd arni erbyn hyn.                        
 
Tor y Foel
Rydych chi’n teimlo eich bod ar ben y byd ar y copa 551m amlwg yma, sy’n cynnig golygfeydd pell iawn dros o leiaf hanner y Parc Cenedlaethol. Mae’r golygfeydd yn ymestyn o ganol y Bannau yn y gorllewin i’r Mynyddoedd Duon lympiog ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Cydiwch yn dynn yn eich het - mae’n wyntog ofnadwy i fyny yma.
 
Cronfa Ddŵr Talybont 
Dyma un o nifer o gronfeydd dŵr sydd wedi’u gwasgaru mewn hanner cylch eang o dan ganol y Bannau i wasanaethu trefi hynod boblog De Cymru. Talybont, o bosib, sy’n cynnig y golygfeydd gorau. Daeth y gronfa yma o ddŵr, a grëwyd gan ddyn, yn hafan i fywyd gwyllt. Bellach mae’n warchodfa natur leol sy’n nodedig am ei phoblogaeth o hwyaid pengoch, hwyaid copog, hwyaid gwyllt a chorhwyaid.
 
Tramffordd Bryn Oer 

Fel Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu, chwaraeodd y dramffordd hon ran fawr yn chwyldro diwydiannol a thrafnidiaeth yr ardal. Roedd yn weithredol rhwng 1815 ac 1865 ac yn gyswllt rhwng y gamlas a'r gwaith haearn yn Nhredegar a chwareli  calchfaen Trefil. Mae bellach yn llwybr cerdded, llwybr beicio mynydd a llwybr marchogaeth ceffylau poblogaidd rhwng Talybont-ar-Wysg a Threfil. Cadwch lygad am rai o’r sliperi carreg gwreiddiol sydd dal yn eu lle ar hyd y llwybr.