CYLCHDAITH Y BANNAU

Yr un mawr!

 
Byddwch yn barod am y daith gerdded epig yma a’i holl olygfeydd, sy’n cynnwys prif gopaon a chribau canol Bannau Brycheiniog i gyd ar unwaith.

 


Manylion pwysig

Hyd: 11 milltir (17.7km)
Amser: Tua 4–6 awr
Dechrau a gorffen: Storey Arms, ar yr A470 rhwng Aberhonddu a Merthyr Tudful
Cyfeirnod Map OS: 982203
Map OS: 160 (cyfres 1: 50 000)
Cyfleusterau: Maes parcio yn Storey Arms. Mae toiledau ar gael yn y maes parcio nesaf, ychydig gannoedd o fetrau i’r de.
 

Ar hyd y daith

Storey Arms
Mae’n hawdd deall bod y tirnod enwog yma’n denu pobl fel gwenyn at bot jam, gan ei fod wedi’i leoli ar yr A470 reit yng nghanol y Bannau. Ond peidiwch â dod yma’n disgwyl tafarn. Cafodd Storey Arms ei enwi ar ôl y tirfeddiannwr Storey Maskelyne ac ni fu erioed, fel mae’r enw’n awgrymu, yn dafarn. Canolfan gweithgareddau awyr agored ydi’r lleoliad erbyn hyn. 
 
Obelisg Tommy Jones
Ar noson y 4ydd o Awst 1900, yn ddim ond 5 mlwydd oed, aeth Tommy Bach ar goll wrth gerdded i ffermdy anghysbell Cwmllwch. Mae’r obelisg ar y grib uchel uwch ben Llyn Cwm Llwch yn nodi’r fan lle syrthiodd Tommy a marw o oerfel. 
 
Cwm Llwch
Mae’r pant dwfn o dan Gorn Du yn enghraifft glasurol arall o nodweddion daearegol niferus Bannau Brycheiniog.  Cafodd y cwm yma, neu’r peiran, ei greu gan rewlifau’n symud yn ystod yr Oes Iâ ddiwethaf. Mae llyn rhewlifol y cwm yn nodwedd glasurol arall o’r Oes Iâ.
 
Pen y Fan
Fe allech chi chwarae pêl droed i fyny yma - wel, bron. Mae copa gwastad nodweddiadol Pen y Fan yn eicon Cymreig. Dyma fynydd uchaf De Cymru a De Prydain, yn mesur 886m o uchder (dim ond 13m yn uwch na Chorn Du, sef mynydd cyfagos). Mae’n bererindod i lawer o bobl.  Mae’r golygfeydd yn syfrdanol a gallwch weld y rhan helaeth o’r Parc Cenedlaethol oddi yma, a’i fryniau a’i fynyddoedd yn ymestyn yn donnau gwyrddion ar draws y tirlun. Mae popeth bron a welwch chi yng nghanol y Bannau’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac yn cael ei reoli ganddi.
 
‘Y Gap’ a’r ffordd Rufeinig
Mae’r Bwlch ar y Fan yn fwy adnabyddus fel ‘Y Gap’. Er bod hwn yn enw braidd yn ddiddychymyg, mae’n addas tu hwnt. Mae’r hollt amlwg yma rhwng y mynyddoedd yn llwybr amlwg o’r gogledd i’r de drwy ganol y Bannau. Efallai fod y ffordd sy’n torri drwy ‘Y Gap’, heb wyneb arni, o darddiad Rhufeinig.
 
Cronfeydd Dŵr Neuadd
Crëwyd y cronfeydd dŵr yma dros ganrif yn ôl er mwyn darparu ffynhonnell ddibynadwy o ddŵr ar gyfer y cymoedd diwydiannol i’r de. Dros y blynyddoedd, maent wedi setlo’n rhan o’r tirlun o dan amffitheatr o fynyddoedd gwyllt.