O STOREY ARMS I’R GANOLFAN YMWELWYR

Taith ddramatig drwy galon Bannau Brycheiniog                        

 
Taith gerdded un ffordd gymedrol drwy dirlun mynyddig ysbrydoledig sy’n gartref i fflora a ffawna prin. Mae gelltydd serth, hafnau creigiog a lonydd gwledig tawel i gyd yn rhan o’r siwrnai hon sy’n llawn amrywiaeth. Daw i ben yng Nghanolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol.
 

Manylion pwysig

Hyd: 6½ milltir (10.5km)
Amser: Tua 3 awr 
Dechrau: Canolfan Addysg Awyr Agored Storey Arms (Cyfeirnod Map OS: SO 982203)
Gorffen: Canolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol (Cyfeirnod Map OS: SO 976261)
Map OS: Explorer OL12 (cyfres 1:25 000)
Cyfleusterau: Lluniaeth a thoiledau yng Nghanolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol
 

Ar hyd y daith

Storey Arms
Cafodd Storey Arms ei enwi ar ôl tirfeddiannwr lleol, Storey Maskelyne, ac mae’n ardal o eiddo tiriog pwysig yng nghalon Bannau Brycheiniog. Mae bellach yn ganolfan addysg sy’n addysgu sgiliau awyr agored fel cerdded mynyddoedd, cyfeiriannu a dringo creigiau. Byddai’n rhaid i chi chwilio’n bell iawn i ddod o hyd i lecyn gwell ar gyfer gweithgareddau o’r fath. Diolch i erydu araf y rhewlifau yn ystod yr Oes Iâ, mae’r tirlun garw yma’n denu archwilwyr ac eraill sy’n frwd am yr awyr agored o lefydd pell iawn. Mae Storey Arms mewn lleoliad allweddol yn hanes daearegol y Parc Cenedlaethol. Mae wrth y cyfrwy (neu’r bwlch) rhwng cwm Tarell i’r gogledd a chwm Taf i’r de, a hwn oedd canolbwynt yr haen iâ fawr ddiwethaf a orchuddiai Fannau Brycheiniog ar un adeg.              
 
Pen-y-Fan a Chorn Du
Dyma’r uchaf a’r ail uchaf o gopaon De Cymru. Maent yn sefyll ochr yn ochr, gyda Phen-y-Fan, yn 886m, fymryn yn uwch na’i gymydog, o ddim ond 13m. Yr hyn sy’n gyfrifol am gopaon gwastad, siâp einion, y ddau fynydd - sy’n nodwedd y gellir ei hadnabod ar unwaith ym Mannau Brycheiniog - yw’r Gwelyau Llwyfandir caled, strata creigiau dycnaf yr ardal. Mae’r mynyddoedd hyn yn llawn ysbrydoliaeth, chwedloniaeth a dirgelwch. Gwelir safleoedd claddu o’r Oes Efydd ar gopaon Pen-y-Fan a Chorn Du ac arferai’r ddau gopa gael eu hadnabod fel Cadair Arthur ar un adeg, sef cyfeiriad at y brenin chwedlonol.                                
 
Craig Cerrig-Gleisiad
Y Warchodfa Natur Genedlaethol greigiog a chysgodol hon yw un o safleoedd mwyaf unigryw a thrawiadol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Cafodd y graig ei cherfio’n raddol gan symudiad anorfod y rhewlifau ac mae’r clogwyni 150m o uchder yn bresenoldeb tywyll a thrwm - ac yn ymddangos yn anghysbell, er eu bod yn agos at yr A470. Efallai bod yr amgylchedd garw a chreigiog yma’n edrych yn unig, ond mae digon o fywyd yn ei gilfachau a’i rigolau. Mae hebogau tramor wedi nythu yma ac mae’n gartref i blanhigion arctig alpaidd anarferol fel y tormaen glasgoch a’r coedwyrdd danheddog - y rheswm dros statws Craig Cerrig-Gleisiad fel Gwarchodfa Natur Genedlaethol.