O ABERHONDDU I BENCELLI

Taith gerdded hyfryd a digon o ddŵr.                

 
Ewch am dro braf ar hyd Camlas Trefynwy ac Aberhonddu. Arferai hwn fod yn llwybr diwydiannol allweddol ond bellach mae’r gamlas yn cynnig llwybr tawel, llawn golygfeydd drwy rai o ardaloedd tlysaf y Parc Cenedlaethol. Mae Aberhonddu’n dref Croeso i Gerddwyr.        

 

Manylion pwysig

Hyd: 4½ milltir (7km)
Amser: Tua 2 awr      
Dechrau: Basn Camlas Aberhonddu (Cyfeirnod Map OS: SO 046287)
Gorffen: Pencelli (Cyfeirnod Map OS: SO 092249)
Mapiau OS: Explorer OL12/OL13 (cyfres 1:25 000)
Cyfleusterau: Parcio, siopau, lluniaeth, toiledau a chanolfan wybodaeth i ymwelwyr yn Aberhonddu. Tafarn ym Mhencelli.
 

Ar hyd y daith

Basn Camlas Aberhonddu            
Gan ddibynnu ar eich persbectif chi, dyma naill ai ddechrau neu ddiwedd Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu. Beth bynnag yw eich barn, mae’r estyniad bywiog yma ar ganol y dref wedi dod â bywyd newydd i Aberhonddu. Fe gewch chi fwydydd blasus i’ch cynnal chi ar eich taith, a hefyd gwybodaeth am y gamlas a’i hanes. Mae’r basn yn gartref hefyd i Theatr Brycheiniog, theatr a chanolfan gelfyddydau Aberhonddu, sy’n llawn bwrlwm.               
 
Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu
Yr enw gwreiddiol ar Gamlas Trefynwy ac Aberhonddu oedd Camlas Brycheiniog a’r Fenni ac fe’i hadeiladwyd rhwng 1797 ac 1812. Mae’n gamp beirianyddol nodedig iawn, gyda mwy na 23 milltir (37km) o’i chyfanswm o 33 milltir (53km) yn gwbl wastad - sy’n gryn gamp o ystyried y tir mynyddig mae’n teithio ar ei hyd. Yn wreiddiol cysylltai Aberhonddu â Chasnewydd a defnyddiwyd y gamlas hefyd i gludo cynnyrch amaethyddol a diwydiannol, gan gynnwys cerrig a chalch wedi’i brosesu o chwareli lleol i Fôr Hafren. Roedd cyflwr y gamlas wedi dirywio’n arw erbyn y 1930au ond cafodd ei hadfer a’i hailagor rhwng Aberhonddu a Phontypŵl ar gyfer cychod pleser yn 1970.
 
Pont Ddŵr Brynich
Adeiladwyd y bont ddŵr yma tua 1800 ac mae’n fan cyfarfod anarferol rhwng Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu a’r afon Wysg. Mae’r strwythur carreg a’i bedwar bwa’n cludo’r gamlas ar uchder o 8m uwch ben dyfroedd gwyllt yr afon. Dim ond llond dwrn o bontydd dŵr o’r fath sydd ar y gamlas ac oddi ar y bont ceir golygfeydd hyfryd ar hyd dyffryn yr afon Wysg.
 
Pencelli
Heddiw, mae’n anodd dychmygu Pencelli fel dim byd mwy na phentref bychan tawel. Er hynny, mae presenoldeb adfeilion castell sy’n dyddio’n ôl i’r 11eg ganrif yn datgelu gorffennol cythryblus. Cyn dirywio’n arw ryw dro yn ystod y 14eg ganrif, bu newid grym sawl tro yn y castell wrth i luoedd Cymru a Lloegr ymgiprys am bŵer. Mae gweddillion y tŵr sgwâr mawr i’w gweld o hyd ar gyrion y pentref.