Nid Vaughan Ddu Mohonof

O’R DIWEDD!

 
O’R DIWEDD! O’r hen focs brwnt i’r ddyfais hyfryd hon! Nid yw’n fwy na chledr llaw ond mae’n DDIDERFYN! Bendithion lu i’r eneth a’i gollyngodd i’r ffieiddbwll! Roeddwn ynddi o fewn eiliad. Deg mil diolch i’w thad am estyn ei law i’r dyfroedd amdana’i. Sawl oes o glod a mawl i’w mam am ei gosod i sychu mewn reis - reis! Hudol ddeunydd newydd. Ac yn awr mae’r ddyfais yn gweithio drachefn, a minnau o’r diwedd yn RHYDD! Rhyddid! Ni fu erioed garcharor mor druenus â fi, yn ddim ond ysbryd mewn blwch tra bo ngelynion yn sarnu f’enw beunydd. Ni fu neb a enllibiwyd gyhyd, a gamddehonglwyd, a gollodd gymaint mewn marwolaeth â fi.
Na neb erioed, ond yn awr fod pob tudalen o’ch byd yn agor fel blodyn o fy mlaen gall pob gair cas amdanaf gael ei gywiro, bydd y gwir o’r diwedd i’w glywed trwy’r wlad, i’w gael yng nghledr llaw pob un sy’n meddu’r ddawn o ddarllen... a myfi’r awdur! Dysgwch, o’r diwedd, am wir hynt fy mywyd.
 

Gwir, fe’m lladdwyd

 
Gwir, fe’m lladdwyd ym Mambri yn 1469, nid yw hynny’n gelwydd o leiaf. Ond celwydd yw’r holl sôn am frad – un o’r Iorciaid oeddwn hyd at y diwedd, er i Harri gesio prynu fy ffyddlondeb. Pan drodd y sarff Warwick yn erbyn hyfryd rosyn gwyn y Plantagenet, Edward IV, sefais i gyda’m brenin. Dyna sut y bu i mi gwympo ar faes y gad, dan haul Gorffennaf ymysg y pryfed ar y rhos. Ond nid wyf yn edifaru dim! Edward yw fy mythol gapten, yr arweinydd heb ei ail, y strategydd gwych, Duwiol ŵr a moesol, gŵr a rwygodd betalau’r rhosyn coch sawl tro mewn brwydr. Byddai wedi arwain ein gwlad at ganrifoedd o hedd a llewyrch petai ond wedi cael etifedd teilwng yn hytrach na’i frawd ieuengach, Rhisiart.
 

Torrwyd fy mhen 

 
Torrwyd fy mhen. Ymadawiad brysiog braidd o’r byd hwn ond nid un heb anrhydedd, gan i mi fynd â’m cledd yn fy llaw ar faes y gad. Efallai fy mod ychydig yn hen i’r frwydr, a finnau’n chwe deg naw, ond roeddwn yn gadlywydd talentog, a bryd hynny roedd yr arweinwyr da wastad i’w cael yng nghalon y frwydr. Bu farw ’nhad ar feysydd Agincourt, ei waed yntau oedd yn fyw eto yn fy ngwythiennau i. Hir oes i wŷr Hergest.
Y tu hwnt i’r ffeithiau yma, does prin ddim arall a glywsoch amdanaf yn wir. Wel, efallai ei fod yn wir fod y ci wedi gor-gyffroi rhyw fymryn.
 

Arawn, ogoneddus gi!

 
Arawn, ogoneddus gi! Mawr fy ngalar fod ei enw yntau hefyd yn gymysg â’r enllib a’m pardduodd i. Am ei ffyddlondeb wrth droed dy feistr yn y frwydr, roedd yn haeddu gwell na’i droi’n fwgan i ddychryn y werin bobl – yn haeddu gwell na’r gwawdlun ohono yn y rhacsyn Hound of the Baskervilles! Mi wn i’n iawn am hwnnw! Ci hen deulu Vaughan ydoedd! Teulu Hergest! A phan welodd fy mhen yn gwahanu o’m gwddf wrth gwrs fe’i cododd ac ymdrechu i’w gario tuag adref. Nid wyf yn ei feio am flino a’i gladdu mewn ffos rhywle yng Nghaerloyw, y bwriad sy’n bwysig yn y pen draw. Trueni na lwyddodd i gario fy nghorff hefyd, ond cafodd hwnnw ei gladdu mewn anrhydedd yn eglwys Ceintun gyda’m gwedd mewn alabastr uwch ei ben. Byddwn wedi gorffwys yno mewn hedd, oni bai am fy ngelynion. Nhw wnaeth ddechrau’r sibrydion amdana’i am fod ganddynt ofn f’annwyl wraig, Elen. Cystal oedd ei chymeriad nes iddi yrru saeth trwy galon ei chefnder ei hun mewn gornest saethu, yn gosb am ladd ei brawd. F’anwylyd! Gallai wastad amddiffyn ei hun rhag enllib a gwawd, ond roedd hynny’n anoddach i mi.
 
 

Vaughan Ddu oeddwn i

 
Ar dir y byw Vaughan Ddu oeddwn i oherwydd lliw fy ngwallt, ond nid felly yn y sibrydion a ddaeth wedyn. Fi oedd yn cael y bai am bopeth drwg a ddigwyddai yn y plwyf – y ceffyl wedi codi pry? Ysbryd Vaughan mae’n rhaid! Tarw’n cerdded trwy’r eglwys? Vaughan eto fyth! Tri chan mlynedd o hyn, a’r dihiryn yn ddim ond swp o esgyrn mewn alabastr! Udo ci yn y nos, rhyw wynt main, cadno’n cymryd oen, Vaughan bob tro, Vaughan y ci du o Annwn! Ffyliaid, mor hawdd yw pardduo’r rhai sy’n methu amddiffyn eu hunain. Erbyn y diwedd allwn i ddim beio’r rhieni oedd yn ailadrodd yr enllib i gyffroi’r plant, nid nhw luniodd y celwydd. Mi ddechreuais dderbyn y rôl a roddwyd i mi. Mi fyddai popeth wedi bod yn iawn oni bai am y chwilen ym mhennau’r deuddeg offeiriad yna. Doedd y seremoni’n ddim byd ond cyfle iddynt ymffrostio yn eu gallu, i ddenu sylw ac i hel celc i’w coffrau eu hunain, i erlid ysbryd gŵr diniwed oedd ond yn gorffwys ar ei wely bythol!
 

Mi frwydrais, wrth gwrs

 
Mi frwydrais, wrth gwrs, ond allwn i ddim dianc rhag eu llafarganu, cefais fy ngharcharu yn y bocs dieflig yna a ’nhaflu i’r pwll budr i wylio’r penbyliaid am ganrifoedd. Dyma fy ffawd, meddyliais, ni chaf weld dim mwy na’r tamaid yna o awyr am byth bythoedd. Dyna oeddwn i’n feddwl, tan i’r ymwelwyr gyrraedd, efo’u plant, a’u ffonau symudol, a’u rhyngrwyd, a’u troeon trwstan wrth fy mhwll bach i. Mi fyddai’n canu dy glodydd am byth Olivia, am ollwng fy rhyddid i mi ar ddamwain. Lledaenwch y stori, lledaenwch y gwir amdanaf nes bydd pob tafarn, tŷ a neuadd yng Ngheintun yn gwybod, nes bydd pob twll a chornel o’r wlad yn ymwybodol, gadwch iddynt oll ganu fy moliant: Fi oedd Syr Thomas Vaughan o Hergest, Bleddfa, Nash a Llaneinion, gŵr Elen ddewr a meistr Arawn ffyddlon. Roeddwn yn fonheddwr, yn gyfiawn ac yn ddewr, tan i mi gael fy nal ym magl fy ngelynion. Cofiwch amdana’i, cyn i chi ailadrodd y clecs creulon. Cofiwch amdana’i, pan fydd y dorf yn erlid un na all amddiffyn ei hun. Cofiwch amdana’i, pan fyddwch yn troedio fy ngwlad. Cerais i hi trwy ’mywyd, fel y gwnewch chithau heddiw. Ac rwyf i’n dal yma.
 
Horatio Clare 2016
 
Sut i ail-greu’r chwedl