Drws trwy’r Dwr

Roedd y drws yn arfer agor ar Galan Mai,

 
rwy bron â gallu gweld ei siâp yn y garreg
yma, a’r grisiau wedyn yn arwain at y twnnel o dan y dŵr. Tân bach diniwed hyd y
waliau i oleuo’r ffordd, sŵn lleisiau a chlychau ar yr awel. Ar ôl rhyw ugain metr o
dwnnel roedd gris arall, hwn yn codi trwy goed a golau ac i mewn i’r ffair. Dwi’n
cofio synnu’r tro cyntaf, gweld ynys yng nghanol Llyn Cwm Llwch. Doedd hi ddim
yno fel arfer, dim byd ond dŵr llwyd, ond ar Galan Mai roedd pobl y pentref yn cael
eu gwahodd i’r ffair, a byddai’r drws yn y garreg yn agor am noson.
Dwi’n cofio’r flwyddyn cafodd gornest Gwyn ap
Nudd a Gwythyr ap Greidawl ei chynnal yma, a’r holl
gynulleidfa’n mynd yn wyllt. Dwi’n cofio John Jones yn colli hanner ei gyflog am nad oedd o wedi deall mai dim ond exhibition match oedd hi
erbyn hynny, a’r enillydd wedi’i drefnu o flaen llaw. A dwi’n cofio wyneb trist Creiddylad druan yn y bocs uwch y cylch, dim diddordeb yn y frwydr ac yn edrych tua’r sêr. Tua wyth oed oeddwn i’r adeg honno ac roedd well gen i Galan Mai na’r Nadolig, roedd hi’n well gen i weld y rhai eraill nac unrhyw beth yn y byd. Mi fues i tua chwe gwaith i gyd dwi’n siŵr. Dwi’n cofio gweld cewri yn nofio’r llyn yn eu gwisgoedd arian, a chathod duon yn dal llygod gwynion rhwng y sêr. Mi roedd hi wastad yn noson braf hefyd! Machlud hir a’r lleuad yn olau. Roeddwn i’n cael aros ar fy nhraed yn hwyrach na’r arfer, i chwarae efo’r plant diarth, tra bo mam a dad yn meddwi’n araf dan y coed. Byddwn yn cael fy nghario adre wedyn, amrannau’n drwm wrth i’r goleuadau gilio.
 

Na, tydyn nhw ddim yn gadael i ni fynd mwyach Na, tydyn nhw ddim yn gadael i ni fynd mwyach.

 
Tydyn nhw ddim hyd yn oed yn gadael i ni weld y ffair – dim ond rhyw sŵn clychau ar y clyw ambell dro, neu chwerthin, neu ôl troed ar wyneb y dŵr. Mae’n drueni, wir, ond efallai ei fod wedi bod yn beth da i mi – petawn i wedi cael parhau i fynd dwi’n siŵr byddwn i wedi rhedeg i ffwrdd efo un ohonynt cyn troi’n bymtheg oed! Ro’n i wrth fy modd yn cael eu gweld nhw’n symud, yn dal ac yn hardd ac yn ddieithr. Drws trwy’r Dwr 
Byddai un yn sefyll wrth y drws bob blwyddyn, ’run un bob tro, yn gosod blodau yng ngwallt y plant bychain ac yn siarad yn dawel efo’r oedolion. Pob blwyddyn byddai’n dweud yr un fath – bod croeso mawr i ni, a bod y pwyllgor wedi bod yn
brysur iawn eleni yn trefnu, a bod digon i’w weld a digon i’w flasu, ond i ni gofio peidio â chario unrhyw beth o’u byd nhw dros aelwyd y drws, dim ond yma, a dim ond heno, y gall y ddau fyd gyffwrdd. Mae’r goelcerth yn cael ei chynnau am naw, a’r beirniadaethau’n cael eu darllen toc wedi hynny. Mwynhewch y ffair! – yr un peth bob blwyddyn.
 
 
Ond wrth gwrs, fel sy’n digwydd pob tro, cafodd yr addewid bach yna ei dorri un flwyddyn. Yn ddamweiniol, cofiwch, doedd dim malais o gwbl. Mi dorrodd llanc ifanc o’r pentref flodyn i’w osod yn nhwll botwm ei grys cyn y ddawns olaf, a phan ddaeth hi’n amser cau, a’r holl ffarwelio mawr, mi anghofiodd bopeth amdano wrth gerdded yn ôl trwy’r twnnel. Pan groesodd yr aelwyd mi gaeodd y drws carreg yn glep, a wnaeth o byth agor wedi hynny. Cafodd y rhai y tu ôl iddo dipyn o sioc wrth i bopeth ddiflannu a chael eu hunain yn wlyb ddiferol yng nghanol y llyn!
 

Roedd rhai o bobl y pentref am ei waed o,

ond sylwodd o ddim. Mi gollodd ei bwyll y noson honno, ac mi adawodd y teulu’r pentref yn fuan wedyn gan fynd â’r ynfytyn druan efo nhw ar gefn cert. Roeddwn i wastad yn tosturio wrtho. Roedd hi’n anochel y byddai’r rheol yn cael ei thorri rhyw dro, dyw’r bydau ddim i fod i gyffwrdd fel yna, ac y fo gafodd ei gosbi am wneud. Ond fel dywedais i, efallai ei fod wedi bod yn fendith i mi yn y pen draw, ches i erioed gael y cyfle i redeg i ffwrdd gydag un o’r lleill! Dwi ddim yn siŵr y byddwn i wedi goroesi hynny. Dwi’n meddwl weithiau fy mod wedi cael fy effeithio gan y ffeiriau yna ar Galan Mai, gan i mi gael yr ysfa wyllt i fynd i’r môr yn fuan wedi i’r drws gau. Mi es lawr at y dociau yng Nghaerdydd i listio ar ddiwrnod fy mhen-blwydd yn un ar bymtheg a mynd i deithio’r byd. Ond wnes i erioed ganfod yr un drws arall, nac unrhyw le oedd yn teimlo fel yr ardd yng nghanol y llyn. Mi welais bethau tebyg ambell dro, rhyw awgrym o rywbeth, ond dim byd oedd yn teimlo’r un fath.

Pan ddes i’n ôl adre

rhyw ugain mlynedd yn ddiweddarach doedd neb yn cofio rhyw lawer am y ffeiriau, dim ond rhyw frith atgof o aroglau pêr a sŵn gwyrdd, a phan es i am dro heibio’r llyn y bore wedyn doedd dim byd i’w weld yno na dim byd i’w glywed. Ychydig flynyddoedd yn ôl, ar ddiwedd Ebrill, penderfynais fy mod am fynd am un tro olaf. Ar Galan Mai mi wisgais fy nghap pig gloyw, a fy nillad gorau a’n ffon, ac mi ddechreuais gerdded i fyny at y llyn wrth i’r haul fachlud. Roedd hi’n noson hyfryd, ac roedd hi’n dawel iawn yno. Doeddwn i ddim yn disgwyl gweld dim byd a dweud y gwir, ac mi es yn ôl adref pan ddechreuais i grynu. Ond dwi wedi clywed plant y pentref yn sôn am y llyn ambell dro, am sŵn clychau ar y gwynt, neu sŵn chwerthin, ac un yn dweud ei fod wedi gweld ôl troed ar wyneb y dŵr.

 

Sut i ail-greu’r chwedl hon: