Dates:
26/10/2017 18:00 - 30/10/2017 23:00

Mae ein 12fed Gŵyl yn dathlu Vivaldi ac yn trafod cerddoriaeth Fenis. Fel rhan o’r penwythnos hir cynhelir pump cyngerdd godidog gyda Rachel Podger, Brecon Baroque, I Fagiolini, Ensemble Diderot a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a chaiff caffi dros dro ei godi hefyd - Caffe Florian – gyda cherddoriaeth siambr fyw, Hwyrol Weddi ac Ewcharist yr Ŵyl yn Eglwys Gadeiriol Aberhonddu, taith dywys ynghyd â thaith o amgylch Tŷ Penpont yn Nyffryn Wysg a’n dawns Faroc flynyddol..