Defnyddiwch y ddewislen i ddarganfod yr ystod eang o weithgareddau sydd ar gael yn y Parc cenedlaethol. Cewch fod mor anturus ag y dymunwch gydag arweinwyr arbenigol ar gael i helpu os ydych yn llai hyderus neu am ddysgu sgiliau newydd. Mae lleoedd am hurio neu brynu offer os dymunwch roi tro ar rywbeth, ac mae canolfannau yn Llangors a Taf Bargoed yn cynnig dringo dan do a gweithgareddau eraill.
Neu cewch ymuno ag un o’r Tywysiadau a drefnir gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol. Cofiwch gadw’n ddiogel – mae’r gwasanaethau achub yn ardderchog ond mae’n well ganddynt beidio â chael eu galw allan!
Mae Cymdeithas Parc Bannau Brycheiniog hefyd yn rhedeg rhaglen o dywysiadau
Am ragor o wybodaeth ar lawer o bethau i’w gwneud, mynnwch eich copi o Lawlyfr Ymwelwyr Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae’r llyfryn llawn lliw hwn, sydd â 72 o dudalennau’n cynnig talpau anferth o wybodaeth ar bopeth o gerdded i dreftadaeth y byd, ond mae ganddo hefyd fanylion llawn o rhai o’r llety gorau yn yr ardal.
Cewch gael eich copi chi trwy e-bostio eich enw a chyfeiriad atom ni, neu o Ganolfannau Croeso ledled Ctymru a Lloegr. Mae ar gael yn helaeth drwy’r Parc.
Mae Cymdeithas Parc y Bannau Brycheiniog wedi datblygu detholiad o chwech hunan-dywysiad y cewch eu hargraffu yn rhad ac am ddim o’u gwefan.
Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol wrthi’n datblygu cyfres o gardiau hunan-dewisiadau, ac mae pedwar ohonynt eisoes ar silffoedd y Canolfannau Gwybodaeth lleol. Am £1 yr un, ac maent yn ddelfrydol fel cofroddion. Dyma’r cardiau cerdded sydd ar gael: Pen-y-Fal o’r Fenni, Glanfa Llanffwyst o’r Fenni, Pen-y-Fan a Chribyn o Gwm Gwdi a Chylch y Bannau.
Hefyd mae llyfryn Teithiau Cerdded Bywyd Gwyllt lefel isel a ddyluniwyd i deuluoedd eu mwynhau o gwmpas rhai o emau mwyaf cudd y Parc Cenedlaethol. Mae’r holl Ganolfannau Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol a Chanolfannau Gwybodaeth Ymwelwyr lleol yn cadw detholiad da o gyhoeddiadau cerdded ichi ddewis o’u plith.
Mae gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ' yn rhoi arweiniad i diroedd a llwybrau sydd fel arfer ar gael ar gyfer mynediad i gerddwyr yng Nghymru.
Cewch arloesi hefyd Map rhyngweithiol Cymru’r Cyngor Cefn Gwlad.
Keep up to date with the park's news this month.
VacanciesDetails of vacancies in the National Park
Committees CalendarDetails of forthcoming Committee meetings
Report illegal offroadingYou can report illegal offroading to the Police here.