Parc Gwledig Craig-y-Nos

 

Wedi ei leoli mewn safle dramatig a rhamantus mewn lle arunig yng Nghwm Tawe uchaf, mae Parc Gwledig Craig-y-nos yn ardd Fictoraidd deunaw erw gyda choetiroedd cysgodol, dolydd, pyllau, lawntiau llonydd ac afonydd byrlymus.

Roedd lawntiau hanesyddol Castell Craig-y-nos unwaith yn gartref i'r gantores opera rhyngwladol enwog, Adelina Patti, ac maent wedi’u lleoli ar lannau Afon Tawe.

Erbyn hyn, mae’n Barc a Gardd Hanesyddol Gofrestredig a reolir gan Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae’n fan lle mae nodweddion naturiol a nodweddion o waith dyn yn cydweddu’n effeithiol iawn. Mae'r afon yn ymdroelli drwy'r parc, gyda’r dirwedd o goed tal, dolydd ffrwythlon, planhigfeydd coetir, pwll pysgod, llynnoedd, lawntiau a llwybrau cerdded drwy'r coed yn teimlo’r un mor gartrefol yma.

Mae gan y safle hanes hir, gydag olion o’r Oes Efydd, yr Oes Haearn ac olion Rhufeinig yn y bryniau o gwmpas. Credir bod y castell presennol yn eistedd ar yr un safle a gafodd ei feddiannu yn y cyfnod canoloesol cynnar gan Dywysog Cymreig lleol. Mae'r castell a'r parc gwledig sydd yno heddiw yn dyddio’n ôl i gyfnodau Fictoraidd ac ôl-Fictoria.

Yn ei anterth, roedd gan Graig-y-nos yr holl nodweddion oedd eu hangen ar unrhyw barcdir Fictoraidd ffasiynol: gerddi llysiau muriog, tai gwydr, gerddi cerrig, lawnt croce, gardd rosod, coed egsotig ac addurnol gan gynnwys cnau Ffrengig, acacia, mwyar Mair ac ewcalyptws, yn ogystal â choed derw a ffawydd.

Wrth i chi gerdded o gwmpas, dychmygwch eich bod yn dilyn ôl troed Adelina Patti (llun ar y dde), wrth iddi gerdded o gwmpas ei gardd foethus. Gallai crwydro o amgylch y pwll pysgod arwain at daith gerdded tuag at binwydd Albanaidd; yn ôl straeon lleol roedd Patti yn arfer cerdded ymysg y coed hyn er mwyn anadlu eu harogl i helpu i glirio ei llais cyn perfformiad.

Mae'r parc heddiw yn cael ei wasanaethu gan lawer o lwybrau ysgafn, hawdd i’w dilyn, a chanolfan ymwelwyr ac ystafell de gyda meinciau a mannau picnic. Mae’n lle delfrydol i dreulio prynhawn.

Mae digwyddiadau fel cyrch madarch a chwilio am ystlumod yn cael eu cynnal yn y Parc Gwledig yn ystod y flwyddyn. Gweler Digwyddiadauam fanylion.

Ymweld â Pharc Gwledig Craig-y-nos

Mae'r parc yn gyfeillgar i deuluoedd, ac ar agor bob dydd o'r flwyddyn ac eithrio dydd Nadolig. Mae mynediad am ddim. Mae croeso i chi ddod â chŵn, ond cofiwch eu cadw ar dennyn. Ni chaniateir cŵn yn y weirglodd tra bod y defaid yn pori yno dros fisoedd y gaeaf.

Sut i fynd yno

Mae mynedfa'r maes parcio ar yr A4067 o Abertawe, heibio Abercraf a Phen-y-cae. Trowch i'r dde yn union ar ôl castell Craig-y-Nos. O Aberhonddu, gyrrwch i’r gorllewin ar hyd yr A40 i Bontsenni a throwch i'r chwith ar hyd yr A4067 (tuag at Abertawe). Mae'r Parc Gwledig ar ôl Dan-yr-Ogof ar yr ochr chwith. Cod Post i’r sat nav: SA9 1GL. Gwasanaeth bws o Aberhonddu ac Abertawe.

Trefi a phentrefi agosaf

Ystradgynlais, Pen-y-Cae

Cyfeirnod grid OS

Map Explorer OL12 neu Map Landranger 160 - SN840155

Opening times

Bob dydd, 24 awr y dydd. Nid yw’r Parc yn cael ei gloi ac eithrio ar ddydd Nadolig.

Cyswllt

Parc Gwledig Craig-y-Nos, Pen-y-Cae, Cwm Tawe, SA9 1GL, Ffoniwch 01874 624437 am fwy o wybodaeth.

Cyfleusterau

Canolfan ymwelwyr, siop grefftau, ystafell gyfarfod, ystafell de a bwyty Changing Seasons (bob dydd o 10am, nosweithiau Gwener a Sadwrn drwy archebu ymlaen llaw, 01639 731498). Gallwch gael trwyddedau ar gyfer pysgota yn yr afon yn y ganolfan ymwelwyr.

Parcio

Mae yna ddigon o le i barcio, gydag arwyneb tarmac. Mae tocynnau tymor ar gael ar gyfer y maes parcio, o  Parc Gwledig Craig-y-Nos a Chanolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol.

Toiledau

Yn y maes parcio, ger y ganolfan ymwelwyr ac yn agos at y pwll pysgod, gyda mynediad i'r anabl a chyfleusterau newid babanod.

Hygyrchedd

Mae yna leoedd parcio i'r anabl ger y ganolfan ymwelwyr. Mae cadair olwyn ar gael yn y ganolfan ymwelwyr ar gyfer ei defnyddio ar y safle. Mae'r rhan fwyaf o'r llwybrau yn y Parc Gwledig ar un lefel neu’n raddol ac yn hygyrch i gadeiriau olwyn. Mae gan rai arwynebau caled. Mae’r llwybrau i'r coetir, dolydd, llynnoedd ac ardaloedd picnic wedi eu gorchuddio’n bennaf. Gall y llwybrau dros ardal y ddôl fod yn feddal dan draed. Mae map a gwybodaeth ar fwrdd gyffwrdd ar ddechrau'r prif lwybrau.