Castell Aberhonddu

Mae adfeilion rhamantaidd Castell Aberhonddu’n edrych dros Afon Wysg ac Afon Honddu yng nghanol y dref. Cynlluniwyd y castell gan y Normaniaid er mwyn darostwng y Cymry gelyniaethus, ac ar un adeg roedd y castell yn olygfa ysblennydd.

Ar hyn o bryd mae’r castell mewn perchenogaeth breifat.

Hanes

Castell Aberhonddu oedd creadigaeth Bernard de Neufmarche, ac fe’i hadeiladwyd tua 1093. Roedd safle cydlifiad yr afonydd Wysg a Honddu yn lleoliad delfrydol ar gyfer adeiladu’r castell - gyda’r dŵr yn ddefnyddiol ar gyfer amddiffyn, cynhaliaeth ac i bweru’r melinau.

Gan nad oedd unrhyw bontydd yn croesi’r Wysg yn y cyfnod, roedd y rhydiau hefyd o bwysigrwydd strategol yng nghynlluniau’r Normaniaid i ehangu tua’r gorllewin, ac roedd gofyn eu hamddiffyn i’w cadw ar agor. Caiff y rhyd sydd i fyny’r afon ei hadnabod o hyd fel Rhyd Bernard ac mae wedi ei nodi felly ar rai o’r mapiau Arolwg Ordnans hŷn.

Castell tomen a beili oedd yr un cynharaf. Y twmpath pridd mawr, sydd heddiw yng ngardd Palas yr Esgob, gyferbyn â Gwesty’r Castell, oedd y domen lle safai gorthwr pren uwch ei ben. Ymestynnai’r beili, neu’r iard, islaw'r domen i orchuddio’r ardd bresennol ac, o bosib, rhan o safle’r gwesty: mae’r clawdd ar yr ochr ogleddol i’w weld yn amlwg yn yr ardd. Hyd yn oed yn y cyfnod cynnar hwn, mae’n rhaid bod y castell yn olygfa drawiadol. Dyma’n union beth y bwriadai’r Normaniaid; atalfa i ddarostwng y Cymry gelyniaethus.

Adeiladodd y Normaniaid gannoedd o gestyll yn y ddwy ganrif wedi 1066. Cychwynnwyd bron pob un ohonynt fel rhai tomen a beili gydag adeiladau pren. Ond, ehangwyd a chryfhawyd y rhai pwysicaf, a digwyddodd hyn yn Aberhonddu.

Pencadlys Strategol

Yn fuan daeth y castell yn bencadlys gweinyddol a milwrol i Arglwyddiaeth fawr Aberhonddu. Gan fod ei safle o bwysigrwydd strategol, roedd cyfiawnhad dros wneud y castell yn fwy pwerus. Y newid mwyaf dramatig oedd y defnydd o gerrig yn lle pren. Mae hyn i’w weld yn amlwg yn y rhannau o’r castell sydd wedi goroesi.

Byddai gan Gastell Aberhonddu ddau fynediad yn ogystal â gât cilborth. Fe wynebai’r brif gât tuag at y gorllewin ac edrychai allan dros afon Wysg, byddai’n rhaid croesi pont godi i gael mynediad ati. Mae’n ddigon posibl y byddai wedi cael ei hamddiffyn gan ddau dŵr hanner crwn, drws mawr a phorthcwlis.

Amddiffynnwyd y castell hefyd gan bont godi ar safle’r bont bresennol sy’n croesi Afon Honddu. Roedd y gatiau hyn wedi eu huno gyda’r murlen amgylchynol a oedd yn amgáu holl ardal y castell. O fewn yr amddiffyniadau allanol hyn yr adeilad mwyaf mawreddog oedd y Neuadd Fawr; dyma oedd canolbwynt cymdeithasol y castell a’r Arglwyddiaeth, lle'r oedd Arglwyddi Aberhonddu yn cynnal llys. Roedd ystafelloedd preifat yr Arglwydd drws nesaf i’r Neuadd.

Ceir cyfeiriadau at ystafelloedd ac adeiladau eraill mewn dogfennau canoloesol. Er enghraifft, roedd gan y Cwnstabl a’r Derbynnydd (o drethi a thollau) eu siambrau eu hunain. Roedd yna gapel, trysorlys, cegin, tŵr harnais, stabl ac ystafell y porthor - disgrifiwyd y ffynnon fel un â dyfnder o 30 troedfedd. Mae’r disgrifiadau hyn yn awgrymu bod y castell yn fwy fel tref gaerog fechan yn hytrach na chanolfan filwrol yn unig.

Daethai trigolion o’r Arglwyddiaeth amgylchynol i’r llysoedd a gynhaliwyd yn y castell er mwyn talu eu tollau i’r trysorlys ac i bledio am freintiau, yn ogystal ag i fasnachu bwyd, pren a chyflenwadau eraill.

Amddiffyn milwrol

Er hyn, roedd yna nifer o achlysuron pan fyddai’r pontydd yn cael eu codi a chwaraeodd y castell ei rôl filwrol fel cadarnle estronol mewn ardal wrthryfelgar iawn o’r wlad. Ymosodwyd arno chwe gwaith rhwng 1215 ac 1273; bu tri o’r ymosodiadau yn llwyddiannus - yn 1215, 1264 a 1265. Roedd tipyn o’r rhyfela hyn yn rhan o’r frwydr dri chan mlynedd rhwng y Normaniaid a’r Cymry a ddechreuodd gyda’r goncwest ac a barhaodd tan wrthryfel Glyndŵr.

Serch hynny, roedd yna reswm arall am ryfel yn y Gororau - y frwydr am bŵer rhwng y brenhinoedd Cymreig a’u barwniaid. Rhaid ystyried y digwyddiadau milwrol a effeithiodd ar Gastell Aberhonddu a’r dref yn y 13eg ganrif yn y cyd-destun cenedlaethol, ehangach hyn.

Yr oedd Arglwyddiaethau’r Gororau yn wahanol i rai gweddill Prydain. Gallai’r Arglwyddi ymsefydlu eu cyfundrefnau cyfreithiol eu hunain. Nid oedd gan y Brenin lawer o hawl i ymyrryd ym materion mewnol yr Arglwyddiaeth heblaw bod yr Arglwydd yn euog o frad neu ffeloniaeth.

Sedd grym

Roedd Arglwyddi Aberhonddu ymysg y dynion mwyaf pwerus yn y Deyrnas - dim ond rhan o’u tiroedd helaeth oedd eu heiddo yn yr ardal hon. Mi olynwyd De Neufmarche gan ei ferch Sybil a briododd Iarll Henffordd ac fe etifeddwyd eu hystadau hwy yn Aberhonddu gan William de Braose.

Arhosodd y tiroedd hyn yn nheulu’r de Braose am tua chan mlynedd, ac yna, drwy briodas, fe unwyd tiroedd yr Arglwyddiaeth wreiddiol yn Aberhonddu a Henffordd o dan feddiant Humphrey de Bohun. Bu’r Arglwyddiaeth mewn dwylo brenhinol o’r 14eg ganrif hwyr tan ganol y 15fed ganrif pan roddwyd hi i deulu’r Stafford a fyddai’r Arglwyddi olaf yn Aberhonddu.

Roedd yr holl deuluoedd hyn yn uchelgeisiol yn wleidyddol, felly fe’u tynnwyd i mewn i ryfeloedd, gwrthryfeloedd a chynllwynion. O ganlyniad, roedd Aberhonddu yn yr Oesoedd Canol yn aml yng nghanol digwyddiadau pwysig ac roedd yn llawer agosach i faterion pwysig cenedlaethol nag y bu mewn canrifoedd mwy diweddar.

Beth sydd i’w weld yng Nghastell Aberhonddu

Ar ben y domen mae gweddillion gorthwr cragen sy’n dyddio o ganol y 13eg ganrif. Mae’r adeilad mwyaf i oroesi, drws nesaf i’r gwesty, yn rhan o’r neuadd 13eg ganrif. Ger y wal ar ochr afon Honddu mae tŵr hanner wythonglog o’r 14eg ganrif gynnar.

Ymweld â Chastell Aberhonddu

Mae rhan o’r safle wedi bod yn westy ers y 1800au cynnar.

Sut i gyrraedd yno

Saif y castell y tu mewn i dref Aberhonddu.

Cyfeirnod grid yr Arolwg Ordnans

SO044286

Cyswllt

Gwesty Castell Aberhonddu, ffôn 01874 624611, www.breconcastle.co.uk