Chwareli’r Mynydd Du

Mae hon yn ardal fawr o chwareli calchfaen segur mewn lleoliad bendigedig ar Fynydd Du. Mae hefyd yn cael ei galw’n Chwarel Herbert. Mae gan y safle olygfeydd panoramig dros Geoparc Fforest Fawr a rhan orllewinol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Am ganrifoedd, cafodd y calchfaen ar ochrau’r bryniau hyn ei gloddio a’i losgi mewn odynnau i gynhyrchu calch i’w ddefnyddio fel gwrtaith amaethyddol, ar gyfer plastr a morter yn y byd adeiladu, ac mewn nifer o brosesau diwydiannol fel cynhyrchu haearn. Unwaith roedd wedi cael ei gloddio o ochrau’r bryniau, roedd y calchfaen yn cael ei losgi mewn odyn i gynhyrchu calch tawdd, sylwedd defnyddiol iawn ond un sydd hefyd yn gyrydol iawn ac yn beryglus.

Byddai ffermwyr o’r ddwy ochr i’r mynydd yn teithio i’r chwareli ar geffyl a chert yn y gwanwyn i echdynnu a llosgi’r calchfaen, yna byddent yn cludo’r calch tawdd yn ôl i’w ffermydd i’w ddefnyddio. Dros amser, aeth cynhyrchu calchfaen o’r chwareli o nerth i nerth, ac yn y pen draw cafodd ei ecsbloetio ar raddfa fasnachol. Caewyd y chwarel a daeth y cynhyrchu i ben yn yr 1950au.

Mae Chwareli’r Mynydd Du yn gapsiwl amser o agwedd bwysig iawn ar dreftadaeth ddiwydiannol Cymru. Mae olion ffisegol o echdynnu calch yn pontio dros gannoedd o flynyddoedd gyda gweithfeydd chwarel, odynnau calch a thomenni o’r adeg yr oeddent yn cael eu defnyddio’n lleol ar raddfa fach yn yr 1700au i’r defnydd diwydiannol mawr yn yr 20fed ganrif. Wrth i chi archwilio’r safle, rydych chi’n dilyn ôl troed nifer o’r miloedd o bobl a fu’n gweithio, yn chwysu ac yn llafurio yma. Nhw roddodd siâp i’r dirwedd hon a nhw oedd yn gyfrifol am adael etifeddiaeth ddiwydiannol mor gyfoethog.

Mae prosiect cyffrous, CALCH (www.calch.org.uk), wedi bod ar waith i ddarganfod, dathlu ac atgyweirio gweddillion y diwydiant calch yn Chwareli’r Mynydd Du.

Ymweld â Chwareli’r Mynydd Du

Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog sy’n berchen ar y chwareli ac maent wedi’u lleoli ar dir â mynediad agored. Byddwch yn ymwybodol bod y tir yn gynefin bywyd gwyllt ac mae’n cael ei ddefnyddio i bori da byw. Er mwyn gwarchod yr adar sy’n nythu, yr ŵyn a’r defaid, rhaid i gŵn fod ar dennyn pryd bynnag y bydd da byw gerllaw, a thrwy gydol yr amser o 1 Mawrth hyd at 31 Gorffennaf.

Sut i gyrraedd yno

Mae’r gweithfeydd oddi ar yr A4069 rhwng Brynaman a Llangadog,

Tref neu bentref agosaf

Brynamman, Llangadog

Cyfeirnod grid OS

OS Landranger 160, Explorer map OL12 – SN733187

Parcio

Mae dau faes parcio am ddim, sydd o fewn pellter cerdded i’r chwareli.

Mae dau faes parcio am ddim, sydd o fewn pellter cerdded i’r chwareli.

Mae prosiect CALCH yn datblygu llwybrau hunandywys diogel wedi’u cyfeirbwyntio o amgylch y safle. Bydd y rhain yn dilyn y llwybrau sy’n bodoli ar hyn o bryd. Mae rhywfaint o’r tir hwn yn laswelltir twmpathog, garw a thir creigiog. Mae’r ardaloedd glaswellt byr a’r graig heb gysgod yn gallu bod yn llithrig pan fyddant yn wlyb. Mae tomenni a llethrau sgri yn gallu bod yn ansefydlog o dan draed ac ni ddylid eu dringo.